Hen Destament

Salmau 5:1-3-5b-6 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-3. O gwrando ’ngeiriau, Arglwydd da,Ystyria ’nghwyn, a chlywFy nghri am gymorth gennyt ti,Fy Mrenin i a’m Duw.

4-5a. Disgwyliaf am y bore bach,Pan glywi di fy llais.Ni saif y drwg yn d’wyddfod byth,Ni hoffi neb trahaus.

5b-6. Difethi di’r celwyddgwn oll,Casei bob drwg a wnaed.Ffieiddia Duw’r twyllodrus rai,A’r sawl sy’n tywallt gwaed.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 5