Hen Destament

Salmau 5:1-3-11-12 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-3. O gwrando ’ngeiriau, Arglwydd da,Ystyria ’nghwyn, a chlywFy nghri am gymorth gennyt ti,Fy Mrenin i a’m Duw.

4-5a. Disgwyliaf am y bore bach,Pan glywi di fy llais.Ni saif y drwg yn d’wyddfod byth,Ni hoffi neb trahaus.

5b-6. Difethi di’r celwyddgwn oll,Casei bob drwg a wnaed.Ffieiddia Duw’r twyllodrus rai,A’r sawl sy’n tywallt gwaed.

7-8. Ond gan mor fawr dy gariad, dofI’th deml i gadw’r oed;Yn dy gyfiawnder arwain fi,Gwna union ffordd i’m troed.

9-10. Nid oes ar eiriau’r drwg ddim coel,Mae’u llwnc fel beddrod du;Boed aflwydd iddynt, cosba hwyAm eu pechodau lu.

11-12. Ond llawenhaed a chaned pawbSy’n caru d’enw drud.Bydd tarian ffafr dy fendith drosY cyfiawn yn y byd.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 5