1-3. Clywch hyn, holl bobloedd byd,Y tlawd a’r rhai mewn moeth.Fe draethaf fi ddoethineb ddofn,Myfyrdod calon ddoeth.
4-5. Gwrandawaf gyngor Duw,Datrysaf bos i chwi.Paham yr ofnaf yn fy ingRai drwg sy’n f’erlid i?
6-7. Ffydd yr erlidwyr hyn,Ffydd yn eu cyfoeth yw;Ond ni all neb ei brynu ei hunNa thalu iawn i Dduw.
8-9. Rhy uchel ydyw prisEi fywyd, ac ni feddY modd i’w dalu, i gael bywAm byth heb weld y bedd.