Hen Destament

Salmau 49:12-14a-20 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

12-14a. Fe dderfydd pobl a’u rhwysgFel anifeiliaid ffôl.Â’r ynfyd a’u canlynwyr ollFel defaid i Sheol.

14b-15. Bugeilia angau hwy;Darfyddant yn Sheol;Ond fe fydd Duw’n fy mhrynu i,A’m dwyn o’r bedd yn ôl.

16-17. Na chenfigenna wrthGyfoethog yn ei dref.Pan fo yn marw, nid â â dimO’i gyfoeth gydag ef.

18-19. Er iddo foli ei ffawd,A derbyn clod di-fudd, at ei dadau, ac ni wêlByth mwy oleuni dydd.

20. Nid erys neb yn hirMewn rhodres yn y byd.Darfyddant, er eu balchder mawr,Fel anifeiliaid mud.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 49