8-9. Cawsom weld popeth a glywsom am Arglwydd y LluoeddYn ninas Duw, a gynhelir gan Dduw yn oes oesoedd.Yn dy deml, Dduw,Fe bortreasom yn fywDdrama dy gariad i’r bobloedd.
10-11. Fel mae dy enw, O Dduw, mae dy fawl yn ymestynHyd eitha’r ddaear. O’th law mae cyfiawnder yn disgyn.Boed lawen frydSeion a Jwda i gydAm iti gosbi y gelyn.
12-14. Teithiwch o gwmpas Jerwsalem, rhifwch ei thyrau,Ewch trwy ei chaerau, a sylwch ar gryfder ei muriau,A dweud yng nghlywYr oes sy’n dod, “Dyma Dduw!Fe’n harwain ni drwy’r holl oesau”.