Hen Destament

Salmau 48:1-3-12-14 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-3. Teilwng yw’r Arglwydd o fawl yn ei fynydd cyfannedd,Yn Seion, dinas ein Duw, ar lechweddau y Gogledd.Dinas yw honSy’n llawenhau’r ddaear gron,A Duw’n amddiffyn ei mawredd.

4-7. Pan ymgynullodd brenhinoedd, a gweld, fe’u brawychwyd;Daeth gwewyr, fel gwewyr esgor, i’w llethu, ac arswyd.Megis pan foHoll longau Tarsis ar ffoRhag y dwyreinwynt, fe’u drylliwyd.

8-9. Cawsom weld popeth a glywsom am Arglwydd y LluoeddYn ninas Duw, a gynhelir gan Dduw yn oes oesoedd.Yn dy deml, Dduw,Fe bortreasom yn fywDdrama dy gariad i’r bobloedd.

10-11. Fel mae dy enw, O Dduw, mae dy fawl yn ymestynHyd eitha’r ddaear. O’th law mae cyfiawnder yn disgyn.Boed lawen frydSeion a Jwda i gydAm iti gosbi y gelyn.

12-14. Teithiwch o gwmpas Jerwsalem, rhifwch ei thyrau,Ewch trwy ei chaerau, a sylwch ar gryfder ei muriau,A dweud yng nghlywYr oes sy’n dod, “Dyma Dduw!Fe’n harwain ni drwy’r holl oesau”.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 48