Hen Destament

Salmau 47:1-4-5-9 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-4. Curwch ddwylo yr holl bobloedd,Rhowch wrogaeth lon i Dduw,Cans ofnadwy yw’r Goruchaf,Brenin yr holl ddaear yw.Fe ddarostwng bobloedd lawerA chenhedloedd danom ni,A rhoes inni ein hetifeddiaeth,Balchder Jacob ydyw hi.

5-9. Yn sŵn llawen ffanffer utgyrn,Yn sŵn bloedd, esgynnodd Duw.Canwch fawl i Dduw ein brenin,Brenin yr holl ddaear yw.Gyda phlant Duw Abram unoddTywysogion yr holl fydGer ei orsedd; ef a’u piau,Ac mae’n uwch na hwy i gyd.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 47