Hen Destament

Salmau 46:5-6-10-11 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

5-6. Mae Duw’n ei chanol; diogel fydd;Yn fore helpa hi.Pan gwyd ei lais, mae gwledydd bydYn toddi o’i flaen yn lli.

7-8. Mae Duw y Lluoedd gyda ni,Duw Jacob yw ein caer.O dewch i weld yr hyn a wnaeth,Ei ddifrod ar y ddaer.

9. Gwna i ryfeloedd beidio trwyY ddaear oll achlân.Fe ddryllia’r bwa a’r waywffon,Fe lysg dariannau â thân.

10-11. Dysgwch mai ef yw’r unig Dduw,Y dyrchafedig, claer.Mae Duw y Lluoedd gyda ni,Duw Jacob yw ein caer.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 46