1. Cyfiawnha fi, Arglwydd,F’achos dadlau di;Rhag rhai drwg, annheyrngarTyrd i’m gwared i.
2. Ti yw fy amddiffyn.Pam fy ngwrthod i?Pam fy rhoi dan orthrwm?Pam tristáu fy nghri?
3. Anfon dy wirioneddA’th oleuni i mi.Dygant hwy fi i fynyddDy lân drigfan di.
4. Yna dof at d’allor.Fy llawenydd ywDy foliannu â’r delyn,Ti, O Dduw, fy Nuw.
5. Na thristâ, fy enaid,Ac na thyrfa’n awr!Molaf fy Nuw eto,Fy ngwaredydd mawr.
Darllenwch bennod gyflawn Salmau 43