Hen Destament

Salmau 40:5-16-17 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

5. O mor niferus, Arglwydd,Dy ryfeddodau diA’th fwriad ar ein cyfer;Does neb, yn wir, fel ti.Dymunwn eu cyhoeddiA’u hadrodd wrth y byd,Ond maent yn rhy niferusI’w rhifo oll i gyd.

6-8. Nid wyt yn hoffi aberthNac offrwm neb heb fodY person hwnnw’n ufudd.Dywedais, “Rwyf yn dod,Mae wedi ei ysgrifennuMewn llyfr amdanaf fiFy mod yn gwneud d’ewyllysYn ôl dy gyfraith di.”

9-10. Cyhoeddais i gyfiawnderI’r gynulleidfa i gyd;Fe wyddost ti, O Arglwydd,Na bûm erioed yn fud.Ni chelais dy ffyddlondeb,Ond traethais bob yr awrDy gariad a’th wirioneddI’r gynulleidfa fawr.

11-12. Paid tithau, Dduw, ag atalTosturi rhagof fi,Ond cadwer fi’n dy gariadA’th fawr wirionedd di.Mae drygau dirifedi’nCau drosof megis llen,Camweddau yn fy nallu,A’u rhif fel gwallt fy mhen.

13-15. Bydd fodlon i’m gwaredu,O Arglwydd; brysia diI’m helpu. CywilyddiaBawb a wnâi ddrwg i mi;A phawb y mae ’nhrallodionYn llonni’u calon hwy,Syfrdana di’r rhai hynny rhyw waradwydd mwy.

16-17. Ond llawenhaed yn wastadBawb sy’n dy geisio di.Dyweded pawb a’th garo,“Mawr yw fy Arglwydd i”.Meddylia Duw amdanaf,Er ’mod i’n dlawd yn wir;Dduw ’nghymorth a’m gwaredydd,O paid ag oedi’n hir.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 40