Hen Destament

Salmau 4:1-4-5-8 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-4. O Dduw, a’m gwaredaist i droeonO’m blinder, clyw ’ngweddi yn awr.Clywch chwithau, sy’n gwawdio f’anrhydeddA charu celwyddau mor fawr:Mae’r Arglwydd yn gwneud rhyfeddodauI’r ffyddlon, a’i weddi a glyw.Pa werth colli cwsg mewn dicllonedd?Na phechwch, distewch gerbron Duw.

5-8. O rhowch eich holl ffydd yn yr Arglwydd,Offrymwch aberthau sydd iawn.Llewyrched yr Arglwydd oleuniEi wyneb ef arnom yn llawn.Rwy’n llonnach na chwi, er digoneddCynhaeaf eich grawnwin a’ch ŷd.Gorweddaf mewn heddwch, a chysgu:Yr Arglwydd a’m cynnal o hyd.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 4