8b-10. Na wna fi’n wawd i ffŵl.Bûm fud, a’m ceg a daw.Ti a wnaeth hyn, a darfod rwyfGan drawiad llym dy law.
11-12a. Drylli fel gwyfyn bawbPan gosbi’n pechod ni.Yn wir, mae pawb fel chwa o wynt.O Arglwydd, clyw fy nghri.
12b-13. Pererin estron wyf,Fel fy holl dadau i gyd.Tro draw dy lid a’m llawenhauCyn imi fynd o’r byd.”