Hen Destament

Salmau 39:1-11-12a Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1. Dywedais, “Gwyliaf rhagPechu âm tafod rhwydd.Rhof ar fy ngenau ffrwyn pan fo’rDrygionus yn fy ngŵydd.

2-3. Bûm ddistaw, ond i beth?Gwaethygu a wnaeth fy nghri;Llosgodd fy holl deimladau’n dânO’m mewn, ac meddwn i:

4. Dysg imi, Arglwydd Dduw,Fy niwedd; dangos diMor brin fy nyddiau yn y byd,Mor feidrol ydwyf fi.

5. Gwnaethost fy nyddiau i gydFel dyrnfedd, ac nid ywFy oes yn ddim i ti, cans chwaO wynt yw pob un byw:

6. Pob un yn mynd a dodFel cysgod, a di-fuddYw’r cyfoeth a bentyrra; niŴyr pwy a’i caiff ryw ddydd.

7-8a. Yn awr, O Arglwydd, amBeth y disgwyliaf fi?Gwared fi o’m troseddau oll.Mae ’ngobaith ynot ti.

8b-10. Na wna fi’n wawd i ffŵl.Bûm fud, a’m ceg a daw.Ti a wnaeth hyn, a darfod rwyfGan drawiad llym dy law.

11-12a. Drylli fel gwyfyn bawbPan gosbi’n pechod ni.Yn wir, mae pawb fel chwa o wynt.O Arglwydd, clyw fy nghri.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 39