Hen Destament

Salmau 36:1-2a-11-12 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2a. Llefara pechod bythWrth bob drygionus un.Does ar ei gyfyl ddim ofn Duw,A llwydda i’w dwyllo’i hun.

2b-4. Mae’i eiriau oll yn dwyll;Gedy ddaioni ar ôl;Cynllunia yn ei wely ddrwgYn ffyrdd troseddwyr ffôl.

5. Ond dy ffyddlondeb diA’th gariad, Arglwydd, sy’nYmestyn hyd gymylau’r nenA hyd y nef ei hun.

6. Mae dy gyfiawnder felMynyddoedd tal, O Dduw,A’th farnau fel y dyfnder mawr.Fe gedwi bopeth byw.

7-8. Llochesa pobl danGysgod d’adenydd clyd;O gysur d’afon, moeth dy dŷDigonir hwy o hyd.

9. Cans y mae ffynnon lânPob bywyd gyda thi,Ac yn d’oleuni di, fy Nuw,Y daw goleuni i ni.

10. At bawb a’th adwaen diDy gariad a barha;A phery dy gyfiawnder atY rhai sy â chalon dda.

11-12. Na syfled troed neb balchNa llaw neb drwg fi’n awr.A dyna y gwneuthurwyr drwgOll wedi eu bwrw i’r llawr!

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 36