Hen Destament

Salmau 33:1-3-20-22 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-3. Llawenychwch, chwi rai cyfiawn,Yn yr Arglwydd, gweddus yw.Canwch salmau iddo â’r dectant,Ar y delyn molwch Dduw.Canwch iddoGân o’r newyddAr y tannau, a rhowch floedd.

4-6. Canys gwir yw gair yr Arglwydd;Ffyddlon yw ei waith i gyd.Fe gâr farnu mewn cyfiawnder;Llawn o’i gariad yw’r holl fyd.Trwy ei airAnadl ei enauGwnaed y nefoedd a’i holl lu.

7-9. Casgla’r môr fel dŵr mewn potel,A chrynhoi’r dyfnderau ynghyd.Ofned yr holl ddaear rhagddo,Ac arswyded pobloedd byd.Cans llefarodd,A bu felly.Fe orchmynnodd: hynny a fu.

10-12. Mae’n diddymu holl gynllwynionPobloedd a chenhedloedd byd;Ond mae’i gyngor ef yn sefyllDros y cenedlaethau i gyd.O mor ddedwyddYdyw’r genedlA ddewisodd iddo’i hun.

13-15. Y mae’n tremio i lawr o’r nefoeddAc yn gweld pawb oll o’r bron;O’r lle y triga y mae’n gwylioHoll drigolion daear gron.Llunia feddwlPawb ohonynt,A dealla’r cwbl a wnânt.

16-19. Ni all byddin achub brenin,Ni all cryfder achub cawr,Ni all march roi dim ymwared,Ond mae llygaid Duw bob awrAr y rhai sy’nDisgwyl wrtho,Ac fe’u ceidw hwy yn fyw.

20-22. Fe ddisgwyliwn wrth yr Arglwydd,Tarian ein hamddiffyn yw.Llawenycha’n calon ynddo;Rhown ein ffydd yn enw Duw.Arglwydd dangoDy ffyddlondeb,Cans gobeithiwn ynot ti.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 33