Hen Destament

Salmau 32:1-4-11 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-4. Mor ddedwydd y sawl y maddeuwydEi drosedd, y cuddiwyd ei gam,Na ddeil Duw’r un twyll yn ei erbyn,Nad oes yn ei ysbryd ddim nam.Tra oeddwn yn gwrthod cyfaddef,Fe nychwn, dan gwyno’n ddi-les;Yr oedd dy law’n drwm arnaf beunydd,A sychwyd fy nerth fel gan des.

5-6. Ac yna, bu imi gyfaddefFy mhechod i gyd wrthyt ti.Dywedais, “Cyffesaf fy mhechod”,A bu iti faddau i mi.Am hyn, fe weddïa pawb ffyddlon,Fy Nuw, arnat ti dan eu clwy,A phan ddaw llifeiriant o ddyfroeddNi chânt byth nesáu atynt hwy.

7-10. Ti ydyw fy nghysgod rhag adfyd.Yr wyt yn f’amgylchu â chân.Dywedaist, “Hyfforddaf di a’th ddysgu,A chadwaf dy lwybrau yn lân.Paid â bod fel mul neu fel ceffylYstyfnig y mae’n rhaid tynhauYr enfa a’r ffrwyn i’w rheoliCyn byth yr anturiant nesáu”.Daw poenau di-rif i’r drygionus,Ond cylch o ffyddlondeb byth ywY gyfran gyfoethog sy’n arosY sawl sy’n ymddiried yn Nuw.

11. Am hyn, llawenhewch yn yr Arglwydd,Rai cyfiawn, a’i foli ar gân;A chanwch yn uchel i’w enw,Bob un y mae’i galon yn lân.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 32