3-4. Ond yr wyt ti, fy Nuw,Yn darian gref i mi.Gwaeddaf yn uchel arno ef;Fe etyb yntau ’nghri.
5-6. Mi gysgaf, a deffrôf,Am fod fy Nuw o’m tu.Nid ofnwn fyrddiwn o rai drwg.Nac ymosodiad llu.
7-8. Fe drewi di’r rhai drwg,A thorri’u dannedd llym.Ti biau’r waredigaeth fawr.Bendithia ni â’th rym.