Hen Destament

Salmau 25:1-3-12-15 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-3. Arglwydd, rwy’n dyrchafuF’enaid atat ti.Paid â chywilyddioF’ymddiriedaeth i.Nid i’r rhai sy â’u gobaithYnot ti, O Dad,Y daw byth gywilydd,Ond i rai llawn brad.

4-6. Rho i mi wybodaeth,Arglwydd, am dy ffyrdd.Rho i mi hyfforddiantYn dy lwybrau fyrdd.Arwain fi, a dysg fi.Ti bob amser ywYr Un a ddisgwyliafI’m gwaredu, O Dduw.

7-9. Cofia dy ffyddlondeb,Sydd yn bod erioed.Paid â chofio ’mhechodCyn im ddod i oed.Da yw Duw ac uniawn.Arwain wylaidd raiA dysg bechaduriaidYn ei ffordd ddi-fai.

10-11. Cariad a gwirioneddYw ei lwybrau i gydI’r rhai sydd yn cadw’iGyfraith ef o hyd.Er mwyn d’enw, Arglwydd,Maddau di yn awrImi fy holl gamwedd,Sydd yn gamwedd mawr.

12-15. Dysgi i’r sawl a’th ofnaRodio llwybrau gwir.Caiff ei blant ef hefydEtifeddu’r tir.Rhoddi dy gyfeillachIddo i’w mwynhau.Trof yn wastad atat:Ti sy’n fy rhyddhau.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 25