1-3. Eiddo’r Arglwydd yw y ddaearA’i holl lawnder hi i gyd.Ar y moroedd a’r afonyddY sylfaenodd ef y byd.Pwy yw’r sawlSydd â hawlI roi yn ei fynydd fawl?Yr un glân ei ddwylo a’i galon,Un na thwyllodd yn ei fyw.Fe gaiff fendith gan yr ArglwyddA chyfiawnder gan ei Dduw.
4-6. Dyna nodPawb sy’n dodGerbron Duw i seinio clod.
7-8. Codwch, byrth, eich pennau’n uchel!Ymddyrchefwch, ddrysau mawr!Y mae’r brenin gogoneddusAm gael dod i mewn yn awr.Ond pwy yw?Dyma’n Duw –Arglwydd cadarn, nerthol lyw!
9-10. Codwch, byrth, eich pennau’n uchel!Ymddyrchefwch, ddrysau mawr!Y mae’r brenin gogoneddusAm gael dod i mewn yn awr.Ond pwy yw?Dyma’n Duw –Arglwydd yr holl Luoedd yw.
Darllenwch bennod gyflawn Salmau 24