Hen Destament

Salmau 21:1-3-7-10 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-3. O Arglwydd, llawenychaY brenin yn dy nerth;Mae’n gorfoleddu oblegidD’achubiaeth fawr ei gwerth.Rhoist iddo heb wrthodiadEi bob deisyfiad taer.Doist ato â bendithion;Rhoist iddo goron aur.

4-6. Am fywyd y gofynnodd:Fe’i cafodd gennyt ti;A chafodd drwy d’achubiaethOgoniant, clod a bri.Yr wyt yn rhoddi iddoDros byth fendithion llawn,A’th bresenoldeb hyfrydA’i gwna yn llawen iawn.

7-10. Mae’r brenin yn ymddiriedYn nerth yr Arglwydd Dduw;Ac am fod Duw yn ffyddlonBydd ddiogel tra bo byw.Cei afael yn d’elynionA’r rhai sy’n dy gasáu,A’u gwneud fel ffwrnais danllyd,A’r tân yn eu hamgáu.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 21