1-3. O Arglwydd, llawenychaY brenin yn dy nerth;Mae’n gorfoleddu oblegidD’achubiaeth fawr ei gwerth.Rhoist iddo heb wrthodiadEi bob deisyfiad taer.Doist ato â bendithion;Rhoist iddo goron aur.
4-6. Am fywyd y gofynnodd:Fe’i cafodd gennyt ti;A chafodd drwy d’achubiaethOgoniant, clod a bri.Yr wyt yn rhoddi iddoDros byth fendithion llawn,A’th bresenoldeb hyfrydA’i gwna yn llawen iawn.