Hen Destament

Salmau 18:34-37-49-50 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

34-37. Ef sy’n fy nysgu i ryfela, i dynnu y bwa.Rhoes imi darian i’m harbed; â’i law fe’m cynhalia.Ni lithraf byth,Cans mae fy llwybrau mor syth.Daliaf elynion a’u difa.

38-41. O dan fy nhraed y syrthiasant, ac rwy’n eu trywanu.Ti a’m gwregysaist â chryfder a nerth i’w gorchfygu.Rhoddaist fy nhroedAr eu gwegilau’n ddi-oed,Ac ni ddaw neb i’w gwaredu.

42-45. Malaf hwy’n fân, ac fe’u sathraf fel llaid ar y strydoedd.Ti sy’n fy ngwneud, wedi’r brwydro, yn ben ar genhedloedd.Mae estron rai’nPlygu o’m blaen dan eu bai;Deuant mewn ofn o’u cuddleoedd.

46-48. Byw yw yr Arglwydd fy Nuw, ac y mae’n fendigedig.Bydded y Duw sy’n rhoi dial i mi’n ddyrchafedig.Gwaredodd fiRhag fy ngelynion di-riA’m gwrthwynebwyr ystyfnig.

49-50. Felly, clodforaf di, Arglwydd, ymysg y cenhedloedd.Cedwi yn ffyddlon i’th frenin eneiniog byth bythoedd;Ac ym mhob gwladFe ddiogelir mawrhadDafydd a’i had yn oes oesoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 18