Hen Destament

Salmau 18:25-27-49-50 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

25-27. Rwyt ti’n ddi-fai i’r di-fai, ac yn ffyddlon i’r ffyddlon,Pur i’r rhai pur, ond yn wyrgam i bawb sy’n elynion.Yr wyt yn haelAt y rhai gwylaidd a gwael,Ac yn darostwng y beilchion.

28-30. Ti sy’n goleuo fy llusern, yn troi nos yn nefoedd.Trwot ti neidiaf dros fur a goresgyn byddinoedd.Tarian o ddur,Profwyd ei air ef yn bur.Perffaith yw Duw’n ei weithredoedd.

31-33. Pwy ond ein Duw ni sydd graig? Pwy sydd Dduw ond yr Arglwydd?Rhydd imi nerth, ac fe’m tywys ar lwybrau perffeithrwydd.Trwy’i rym fe wnaedFel carnau ewig fy nhraed:Troediaf fynyddoedd mewn sicrwydd.

34-37. Ef sy’n fy nysgu i ryfela, i dynnu y bwa.Rhoes imi darian i’m harbed; â’i law fe’m cynhalia.Ni lithraf byth,Cans mae fy llwybrau mor syth.Daliaf elynion a’u difa.

38-41. O dan fy nhraed y syrthiasant, ac rwy’n eu trywanu.Ti a’m gwregysaist â chryfder a nerth i’w gorchfygu.Rhoddaist fy nhroedAr eu gwegilau’n ddi-oed,Ac ni ddaw neb i’w gwaredu.

42-45. Malaf hwy’n fân, ac fe’u sathraf fel llaid ar y strydoedd.Ti sy’n fy ngwneud, wedi’r brwydro, yn ben ar genhedloedd.Mae estron rai’nPlygu o’m blaen dan eu bai;Deuant mewn ofn o’u cuddleoedd.

46-48. Byw yw yr Arglwydd fy Nuw, ac y mae’n fendigedig.Bydded y Duw sy’n rhoi dial i mi’n ddyrchafedig.Gwaredodd fiRhag fy ngelynion di-riA’m gwrthwynebwyr ystyfnig.

49-50. Felly, clodforaf di, Arglwydd, ymysg y cenhedloedd.Cedwi yn ffyddlon i’th frenin eneiniog byth bythoedd;Ac ym mhob gwladFe ddiogelir mawrhadDafydd a’i had yn oes oesoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 18