Hen Destament

Salmau 17:1-4-8-12 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-4. Rwyf yn llefain am gyfiawnder;Dyro sylw i’m llef, a chlyw.Gwrando gri gwefusau didwyll.Doed fy marn oddi wrth fy Nuw.Gwyliaist fi drwy’r nos heb ganfodDim drygioni ynof fi.Ni throseddais gyda’m genau,Ond fe gedwais d’eiriau di.

5-7. Ar hyd llwybrau yr anufuddByddai ’nghamau’n pallu’n syth,Ar dy lwybrau di, fodd bynnag,Nid yw ’nhraed yn methu byth.Gwaeddaf am dy fod yn f’ateb.Dangos dy ffyddlondeb triw,Ti sy’n achub â’th ddeheulawBawb a’th geisia’n lloches wiw.

8-12. Megis cannwyll loyw dy lygadCadw fi, a’m cuddio danDy adenydd rhag gelynionSydd o’m cwmpas ym mhob man.Bras eu calon, balch eu tafod,Maent amdanaf wedi cau,Bron â’m bwrw i’r llawr a’m llarpio,Megis llew yn llamu o’i ffau.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 17