O Dduw, cadw fi, cans llochesafYn dawel am byth ynot ti.Ti ydyw fy Arglwydd, a hebotNid oes dim daioni i mi.Boed melltith ar bawb sy’n gwirioniAr dduwiau paganaidd y wlad;Dim ond amlhau ei ofidiauY mae’r un a’u blysia mewn brad.