Hen Destament

Salmau 15:1-3b-4a Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1. Pwy gaiff ganiatâd i arosYn dy babell di, fy Nuw?Yn dy fynydd sanctaidd, Arglwydd,Pwy gaiff ganiatâd i fyw?

2-3a. Un sy’n byw yn gywir, onest,Gwneud cyfiawnder ar ei daith,Nad oes malais ar ei dafod,Na wna ddrwg i’w gyfaill chwaith.

3b-4a. Un nad ydyw’n goddef enllibAm gymydog, ac sy’n bywI ddirmygu yr ysgymun,Parchu’r rhai sy’n ofni Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 15