9-11. Mae’n rhoddi i’r holl anifeiliaid eu porthiant,A’r hyn a fynnant i gywion y frân.Nid yn nerth march na grym gŵr y mae’i fwyniant,Ond yn y rhai y mae’u ffydd ynddo’n lân.
12-14. Jerwsalem, mola dy Dduw, a thi, Seion,Cans fe gryfhaodd dy furiau i gyd.Rhoes iti heddwch, bendithiodd dy feibion,Ac fe’th ddigonodd â’r gorau o’r ŷd.
15-18. Mae’n anfon i’r ddaear ei air, ac yn rhoddiBarrug fel lludw ac eira fel gwlân,Rhew megis briwsion, ac yna’n eu toddi,Pan yrr ei wyntoedd, yn ddŵr gloyw, glân.
19-20. Mynega i Jacob ei holl eiriau diwall,Ei ddeddfau a’i farnau Israel a glyw.Ni wnaeth mo hyn â’r un genedl arall.Molwch, O molwch yr Arglwydd ein Duw.