Hen Destament

Salmau 147:1-2-9-11 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2. O molwch yr Arglwydd! Da yw rhoi mawl iddo,Cans mae ein Duw yn drugarog ei fryd.Mae’n adeiladu Jerwsalem – ynoY dwg blant Israel o bedwar ban byd.

3-6. Iachâ’r rhai drylliedig a rhwymo’u harchollion;Rhifa ac enwi’r holl sêr. Y mae’n fawr,Yn ddoeth ddifesur. Mae’n codi’r rhai tlodion,Ond y mae’n bwrw’r drygionus i’r llawr.

7-8. O canwch i’r Arglwydd mewn diolch â’r delyn.Ef sy’n rhoi glaw o’i gymylau i’r tir.Gwisga’r mynyddoedd â glaswellt, ac enfynAt ein gwasanaeth blanhigion sydd ir.

9-11. Mae’n rhoddi i’r holl anifeiliaid eu porthiant,A’r hyn a fynnant i gywion y frân.Nid yn nerth march na grym gŵr y mae’i fwyniant,Ond yn y rhai y mae’u ffydd ynddo’n lân.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 147