Hen Destament

Salmau 147:1-2-15-18 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2. O molwch yr Arglwydd! Da yw rhoi mawl iddo,Cans mae ein Duw yn drugarog ei fryd.Mae’n adeiladu Jerwsalem – ynoY dwg blant Israel o bedwar ban byd.

3-6. Iachâ’r rhai drylliedig a rhwymo’u harchollion;Rhifa ac enwi’r holl sêr. Y mae’n fawr,Yn ddoeth ddifesur. Mae’n codi’r rhai tlodion,Ond y mae’n bwrw’r drygionus i’r llawr.

7-8. O canwch i’r Arglwydd mewn diolch â’r delyn.Ef sy’n rhoi glaw o’i gymylau i’r tir.Gwisga’r mynyddoedd â glaswellt, ac enfynAt ein gwasanaeth blanhigion sydd ir.

9-11. Mae’n rhoddi i’r holl anifeiliaid eu porthiant,A’r hyn a fynnant i gywion y frân.Nid yn nerth march na grym gŵr y mae’i fwyniant,Ond yn y rhai y mae’u ffydd ynddo’n lân.

12-14. Jerwsalem, mola dy Dduw, a thi, Seion,Cans fe gryfhaodd dy furiau i gyd.Rhoes iti heddwch, bendithiodd dy feibion,Ac fe’th ddigonodd â’r gorau o’r ŷd.

15-18. Mae’n anfon i’r ddaear ei air, ac yn rhoddiBarrug fel lludw ac eira fel gwlân,Rhew megis briwsion, ac yna’n eu toddi,Pan yrr ei wyntoedd, yn ddŵr gloyw, glân.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 147