Hen Destament

Salmau 146:1-4-8-10 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-4. Molwch yr Arglwydd Dduw.Fy enaid, mola diYr Arglwydd da: tra byddaf bywEi fawl a ganaf fi.Nac ymddiriedwch ddimYn nhywysogion byd,Cans darfod a wnânt hwy yn chwimA’u holl gynlluniau i gyd.

5-7. Gwyn fyd y sawl y daethDuw Jacob ato ef,Sy â’i obaith yn yr un a wnaethY tir a’r môr a’r nef –Y Duw sy’n cyfiawnhauY tlawd, yn rhoddi bwydI’r rhai newynog, yn rhyddhauY carcharorion llwyd.

8-10. Golwg a rydd i’r dall;Uniona’r rhai sy’n gam;Fe geidw’r dieithr yn ddi-ballA’r weddw rhag pob cam.Mae’n caru’r da i gyd,Ond dryllia’r drwg o’u tref.Duw Seion a deyrnasa hydByth bythoedd. Molwch ef.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 146