6-7. Cyhoeddant rym dy holl weithredoedd mawr,Ac adrodd am dy fawredd bob yr awr.Dygant i gof dy holl ddaioni, O Dduw,A chanu am dy gyfiawnder tra bônt byw.
8-9. Graslon a llawn trugaredd ydyw Duw,Araf i ddigio, llawn ffyddlondeb yw.Daionus yw yr Arglwydd wrth bob un,Trugarog wrth holl waith ei ddwylo’i hun.
10-12. Dy waith i gyd a’th fawl, ac mae dy saintYn dy fendithio, O Dduw, gan ddweud am faintDy nerth, a sôn am rwysg dy deyrnas diI beri i bawb weld ei hysblander hi.
13. Teyrnas dragwyddol yw dy deyrnas di,Saif dy lywodraeth byth heb golli’i bri.Ffyddlon yw’r Arglwydd yn ei eiriau i gyd,Trugarog ei weithredoedd ef o hyd.
14-16. Cwyd bawb sy’n syrthio; gwna y cam yn syth;Try llygaid pawb mewn gobaith ato byth;Â’th law’n agored, bwydi hwy, O Dduw.Diwelli, yn ôl d’ewyllys, bopeth byw.