Hen Destament

Salmau 142:1-2-7 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2. Gwaeddaf yn daer ar Dduw,Ymbiliaf arno ef;Arllwysaf fy holl gwyn o’i flaen,A dof i’w ŵydd â’m llef.

3. Fe wyddost ti fy llwybrPan balla f’ysbryd i.Maent wedi cuddio magl arY llwybr a gerddaf fi.

4. Tremiais i’r dde, a gweldNad oes un cyfaill im;Nid oes dihangfa imi chwaith,Na neb yn malio dim.

5. Ond gwaeddais arnat ti;Dywedais, “O fy Nuw,Ti, Arglwydd, yw fy noddfa iA’m rhan yn nhir y byw”.

6. Bwriwyd fi’n isel iawn;O gwrando ar fy nghriA’m gwared rhag f’erlidwyr oll,Cans cryfach ŷnt na mi.

7. Dwg fi o’m carchar caeth,Fel y clodforaf di.Pan gaf dy ffafr dylifo a wnaY cyfiawn ataf fi.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 142