6-7. Ti yw ’Nuw, O Arglwydd grymus,Gwrando lef fy ngweddi glwyfus.Ti, fy nghadarn iachawdwriaeth,Fu fy helm mewn brwydr ganwaith.
8-9. Na ro iddynt eu dymuniad,Paid â’u llwyddo yn eu bwriad.Llethed gwenwyn eu gwefusauY trahaus yn eu bwriadau.
10-11. Syrthied arnynt farwor tanllyd,Bwrier hwynt i ffosydd bawlyd;A drygioni a ymlidiedBob gorthrymwr yn ddiarbed.
12-13. Gwn y rhoddi, Dduw, gyfiawnderI’r anghenus, tlawd bob amser.Moli d’enw a wna y cyfiawn,Ac yn d’ŵydd bydd byw yr uniawn.