Hen Destament

Salmau 140:1-2a-12-13 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2a. Cadw fi, O Dduw, rhag pobolSy’n ddrygionus a gormesol,Rhai sy’n wastad yn cynllunioYn eu calon ddrwg a chyffro.

2b-3. Maent bob amser yn y dirgelYn ymbaratoi at ryfel.Mîn fel sarff sydd i’w tafodau,Gwenwyn gwiber eu gwefusau.

4-5. Arbed fi rhag llaw’r drygionus,Cadw fi rhag pobl orthrymus.Cuddiodd y trahaus eu maglauAr fy ffordd, a gosod rhwydau.

6-7. Ti yw ’Nuw, O Arglwydd grymus,Gwrando lef fy ngweddi glwyfus.Ti, fy nghadarn iachawdwriaeth,Fu fy helm mewn brwydr ganwaith.

8-9. Na ro iddynt eu dymuniad,Paid â’u llwyddo yn eu bwriad.Llethed gwenwyn eu gwefusauY trahaus yn eu bwriadau.

10-11. Syrthied arnynt farwor tanllyd,Bwrier hwynt i ffosydd bawlyd;A drygioni a ymlidiedBob gorthrymwr yn ddiarbed.

12-13. Gwn y rhoddi, Dduw, gyfiawnderI’r anghenus, tlawd bob amser.Moli d’enw a wna y cyfiawn,Ac yn d’ŵydd bydd byw yr uniawn.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 140