Hen Destament

Salmau 14:1-7 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1. Fe ddywedodd y rhai ynfyd,“Nid oes Duw”.Ffiaidd ywEu gweithredoedd bawlyd.

2. Gwyrodd Duw o’i nef i chwilioA oedd unAr ddi-hunA oedd yn ei geisio.

3. Ond mae pawb yn cyfeiliorni.Nid oes neb,Nac oes, neb,Sydd yn gwneud daioni.

4. Gwnânt bryd bwyd o’m pobl anghenus.Oni byddCosb ryw ddyddAr y rhai drygionus?

5. A’r pryd hynny fe fydd gyflawnMaint eu braw,Cans fe ddaw’rArglwydd at y cyfiawn.

6. Er i chwi ddirmygu cyngorY rhai gwael,Y Duw haelYw eu noddfa a’u hangor.

7. Pan adferir i’r iselwael,Lwydd a budd,Mawr iawn fyddGorfoleddu Israel.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 14