Hen Destament

Salmau 139:1-4-21-24 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-4. Arglwydd, yr wyt ti’n f’adnabod;Gwyddost ti yn iawn pa brydYr wy’n eistedd ac yn codi;Gwyddost beth sydd yn fy mryd.Fe fesuraist fy holl gerdded,Gwyddost bopeth rwy’n ei wneud,Ac fe wyddost fy holl eiriauCyn i’m tafod i eu dweud.

5-8. Taenaist dy ddeheulaw drosof;Amgylchynaist fi o’r bron;Ond rhy ryfedd a rhy uchelImi yw’r wybodaeth hon.I ble’r af oddi wrth dy ysbryd?Ple y ffoaf rhagot ti?Os i’r nefoedd, yr wyt yno;Os i Sheol, wele di.

9-12. Os ehedaf ar adenyddChwim y wawr i ben draw’r byd,Yno hefyd dy ddeheulawA’m cynhaliai i o hyd.Os dywedaf, “Gall tywyllwchNos fy nghuddio,” gwn na fyddDim i ti’n dywyllwch, Arglwydd,Ond goleua’r nos fel dydd.

13-15. Ti a greodd f’ymysgaroedd;Lluniaist fi yng nghroth fy mam.Molaf di – rhyfeddol ydwyt,A’th weithredoedd heb un nam.Da’r adwaenost fi. Ni chuddiwydFy ngwneuthuriad rhagot tiPan, yn nyfnder cudd y ddaear,Y gwnaed ac y lluniwyd fi.

16-18. Cyn fy ngeni, ysgrifennaistYn dy lyfr holl dro fy rhod,Ac fe ffurfiaist fy holl ddyddiauPan nad oedd yr un yn bod.O mor ddwfn yw dy feddyliau,Mor lluosog ydynt hwy;Lluosocach ŷnt na’r tywod;Pe’u cyfrifwn, wele fwy!

19-20. O na byddit ti, O Arglwydd,Yn dinistrio gyda gwgY drygionus, fel y troaiOddi wrthyf y rhai drwg –Y rhai gwaedlyd sy’n dy herioMor ddichellgar yn dy fyd,Ac yn gwrthryfela’n oferYn dy erbyn di o hyd.

21-24. Onid wy’n casáu, O Arglwydd,Bawb sy’n dy ffieiddio di?Fe’u ffieiddiaf â chas perffaith,A gelynion ŷnt i mi.Chwilia fi, O Dduw, a phrofaFy meddyliau i bob un;Ac os ydwyf ar ffordd distryw,Arwain fi i’th ffordd dy hun.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 139