Arglwydd, yr wyt ti’n f’adnabod;Gwyddost ti yn iawn pa brydYr wy’n eistedd ac yn codi;Gwyddost beth sydd yn fy mryd.Fe fesuraist fy holl gerdded,Gwyddost bopeth rwy’n ei wneud,Ac fe wyddost fy holl eiriauCyn i’m tafod i eu dweud.