Ti a greodd f’ymysgaroedd;Lluniaist fi yng nghroth fy mam.Molaf di – rhyfeddol ydwyt,A’th weithredoedd heb un nam.Da’r adwaenost fi. Ni chuddiwydFy ngwneuthuriad rhagot tiPan, yn nyfnder cudd y ddaear,Y gwnaed ac y lluniwyd fi.