Hen Destament

Salmau 137:1-7 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1. Ar lan afonydd BabilonYr eisteddasom ni,Ac wylo wrth gofio am Seion gynt,A’r deml yn ei bri.

2-3. Crogasom ein telynau arYr helyg uwch y lli.Gofynnai’n meistri, “Canwch raiO salmau’r deml i ni”.

4-5. Ond sut y medrwn ganu cânI’n Duw mewn estron le?Os â Jerwsalem o’m cof,Parlyser fy llaw dde.

6. Fy nhafod glyned yn fy ngheg,A thrawer fi yn fud,Os na rof di, Jerwsalem,Uwch popeth gorau’r byd.

7. Am boen Jerwsalem, O Dduw,Rho i Edom benyd trwm,Am iddynt ddweud, “I lawr â hiAt ei sylfeini llwm”.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 137