Hen Destament

Salmau 135:1-4-19-21 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-4. Molwch yr Arglwydd! O molwch ef, weision yr Arglwydd,Chwi sydd yn sefyll yn nhŷ a chynteddoedd yr Arglwydd.Molwch ein Duw!Jacob ac Israél ywTrysor arbennig yr Arglwydd.

5-7. Gwn fod yr Arglwydd yn fawr, ac yn well na’r holl dduwiau.Gwna beth a fyn yn y ddaear a’r nef a’r dyfnderau.Llunia â’i lawFellt a chymylau a glaw,A daw y gwynt o’i ystordai.

8-10. Trawodd rai cyntafanedig yr Aifft – epil dynionAc anifeiliaid. Anfonodd i Pharo rybuddion.Bwriodd i’r llawrLawer i genedl fawr,A lladd brenhinoedd tra chryfion:

11-12. Lladd Sihon, teyrn yr Amoriaid, ac Og, brenin Basan;Yna dinistrio holl dywysogaethau gwlad Canaan.Rhoes eu tir hwyI bobl Israel byth mwyYn etifeddiaeth a chyfran.

13-14. Y mae dy enw, O Arglwydd, am byth, a’th enwogrwyddO un genhedlaeth i’r llall, cans mi wn y daw’r ArglwyddI gyfiawnhauEi bobl, a thrugarhauWrth ei holl weision yn ebrwydd.

15-18. Arian ac aur ydyw delwau’r cenhedloedd – gwaith dynion.Mae ganddynt lygaid a genau, ond dall ŷnt a mudion:Clustiau heb glyw,Ffroenau heb anadl fyw.Bydd felly eu crëwyr yn union.

19-21. Israel ac Aaron a Lefi, bendithiwch yr Arglwydd;Chwithau, bob un sy’n ei ofni, bendithiwch yr Arglwydd;Seion achlânA holl Jerwsalem lân,Molwch, bendithiwch yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 135