1. Am ba hyd, O ArglwyddYr anghofi fi,Ac y troi dy wynebOddi wrth fy nghri?
2. Am ba hyd y dygafLoes a gofid prudd,Ac y’m trecha’r gelynFel y gwawria dydd?
3. Edrych arnaf, Arglwydd.Gwared fi, fy Nuw.Dyro, rhag fy marw,Olau i’m llygaid gwyw.
4. Rhag i’m gelyn frolio,Wrth i’m llygaid gau,“Fe’i gorchfygais i ef,”Ac ymlawenhau.