Hen Destament

Salmau 128:1-2-5b-6 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2. Gwyn fyd pob un sy’n ofni Duw,Yn cadw’i ddeddfau tra bo byw.Cei fwyta o ffrwyth dy lafur drud,A byddi’n hapus; gwyn dy fyd.

3. Dy wraig fydd ar dy aelwyd lawnMegis gwinwydden ffrwythlon iawn,A’th blant o gylch dy fwrdd, yn wir,Fel blagur olewydden ir.

4-5a. Bendithia Duw â’i ddwylaw grefY sawl sydd yn ei ofni ef.Bendithied dithau’n hael fel hynO’i deml lân ar Seion fryn.

5b-6. Fel y cei weld drwy d’oes bob awrJerwsalem yn llwyddo’n fawr,A gweld holl blant dy blant i gyd.Boed hedd ar Israel o hyd!

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 128