1-2. Gwyn fyd pob un sy’n ofni Duw,Yn cadw’i ddeddfau tra bo byw.Cei fwyta o ffrwyth dy lafur drud,A byddi’n hapus; gwyn dy fyd.
3. Dy wraig fydd ar dy aelwyd lawnMegis gwinwydden ffrwythlon iawn,A’th blant o gylch dy fwrdd, yn wir,Fel blagur olewydden ir.
4-5a. Bendithia Duw â’i ddwylaw grefY sawl sydd yn ei ofni ef.Bendithied dithau’n hael fel hynO’i deml lân ar Seion fryn.