Hen Destament

Salmau 123:1-2-3-4 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2. Mi dremiaf i’r entrychoeddAtat ti,Sy’n eistedd yn y nefoedd,Atat ti.Fel y mae llygaid gweisionA llygaid caethforynionYn gwylio llaw’r meistradon,Gwyliwn di,Nes deui, Arglwydd graslon,Atom ni.

3-4. O bydd dugarog wrthym,Arglwydd Dduw.Tyrd i’n gwaredu’n gyflym,Arglwydd Dduw.Oherwydd cawsom ddigonO wawd a dirmyg beilchionAc amarch cyfoethogion,Arglwydd Dduw.O trugarha yr awron,Arglwydd Dduw.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 123