Hen Destament

Salmau 122:1-3-7-9 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-3. Roeddwn yn llawen iawnPan ddaeth un dydd i’m clywY geiriau hyn: “Dewch, bawb, mi awnI dŷ yr Arglwydd Dduw”.A bellach mae ein traedO fewn cynteddau drudJerwsalem, y lle a wnaedI uno’r bobl ynghyd.

4-6. Yno y daw ar hyntHoll lwythau Duw o’u tref,Yn ôl y ddeddf i Israel gynt,I ddiolch iddo ef.Tŷ Dafydd yno sydd,A llys y gyfraith lem.Gweddïwch bawb bob nos, bob dydd,Am hedd Jerwsalem.

7-9. Llwyddiant a fo i’r rhaiA’th gâr, a bydded heddO fewn dy furiau; boed dy daiYn ddiogel rhag y cledd.Er mwyn i’m pobl gael byw,Dy hedd a fynnaf fi;Ac er mwyn tŷ ein Harglwydd Dduw,Fe geisiaf dda i ti.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 122