Hen Destament

Salmau 120:1-2-6-7 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2. Gwaeddais ar yr Arglwydd tyner,“Tyrd i’m gwared o’m cyfyngder,Rhag y genau drwg, twyllodrus,A rhag tafod sy’n enllibus”.

3-4. Beth yn fwy a roddaf iti,Dafod drwg sy’n fy nifenwi?Rwyt fel saethau llym rhyfelwr,Marwor eirias yw dy ddwndwr.

5. Gwae fy mod i yn ymdeithioYn nhir Mesach, ac yn trigoYmysg pebyll alltud Cedar,Ymhlith pobl estron, anwar.

6-7. Yn rhy hir bûm fyw mewn dryswchGyda’r rhai na charant heddwch.Yr wyf fi am heddwch tawel,Ond maent hwythau’n mynnu rhyfel.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 120