Hen Destament

Salmau 114:3-4-7-8 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

3-4. O weld hyn, fe gilioddTonnau’r môr, a throddYr Iorddonen hithauYn ei hôl o’i bodd.Neidiodd y mynyddoeddMegis hyrddod ffôl;Pranciodd yr holl fryniauMegis ŵyn ar ddôl.

5-6. Beth sydd arnoch, donnau’rMôr, eich bod yn ffoi?Tithau, li’r Iorddonen,Pam dy fod yn troi?Pam yr ydych, fryniau,A’r mynyddoedd mwy’nNeidio megis hyrddod,Prancio megis ŵyn?

7-8. Cryna di, O ddaear,Rhag yr Arglwydd Dduw;Cryna rhag Duw Jacob,Cans ofnadwy yw.Ef yw’r Un sy’n galluTroi y graig yn llyn,Ac o’r gallestr galedDdwyn ffynhonnau gwyn.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 114