Hen Destament

Salmau 112:1-2a-10 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2a. Molwch Dduw; fe ddaw bodlonrwyddI bob un sy’n ofni’r ArglwyddAc yn hoffi ei orchmynion;Cedyrn fydd ei ddisgynyddion.

2b-3. Fe fendithir teulu’r uniawn.Bydd ei gartref ef yn orlawnO oludoedd, a’i gyfiawnderYn parhau tra pery amser.

4-5a. Mewn tywyllwch caiff oleuni;Llawn yw’r cyfiawn o dosturi.Da yw trugarhau yn raslonA rhoi benthyg i’r rhai tlodion.

5b-6. Da yw trefnu pob rhyw faterMewn gonestrwydd a chyfiawnder.Yr un cyfiawn, nis symudir,Ac am byth ei waith a gofir.

7-8. Nid yw’n ofni drwg newyddion,Ond diysgog yw ei galon,Ac nid ofna nes gweld diweddEi elynion a’u hanwiredd.

9. Rhoes i’r tlawd haelioni lawer;Byth fe bery ei gyfiawnder;Ac fe gaiff gan Dduw o’r diweddEi ddyrchafu mewn anrhydedd.

10. Mae’r drygionus yn cynhyrfuO weld hyn, gan ysgyrnygu;Ond diflannu yn adfydusA wna gobaith y drygionus.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 112