1. Oracl Duw i’m brenin: “EisteddDi ar fy neheulaw i,Nes im osod dy elynionMegis troedfainc danat ti”.
2. Fe rydd Duw o Seion wialenEi awdurdod yn dy law;Llywodraetha dithau’n nertholDros dy holl elynion draw.
3. Mae dy bobl yn deyrngar itiAr ddydd d’eni o groth y wawrMewn gogoniant glân; cenhedlaisDi, fel gwlith, yn frenin mawr.