Hen Destament

Salmau 109:12-13-25-26 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

12-13. Na wnaed neb ag ef drugaredd,Na gwneud ffafr â’i blant, na’u coledd.Torrer ymaith ei hiliogaeth,Dileu’i enw o fewn cenhedlaeth.

14-15. Na ddilëer holl ddrygioniEi gyn-dadau na’i rieni;Cofied Duw mor anwir oeddynt,A dileu pob cof amdanynt.

16-17a. Ni fu hwn erioed yn ffyddlon,Ond melltithiodd y rhai tlodionA’r drylliedig hyd at angau.Deued melltith arno yntau.

17b-19. Gan na hoffai ef fendithio,Pell fo bendith oddi wrtho.Gwisgodd felltith megis dillad;Bydded hon amdano’n wastad.”

20-21. Hyn a fo dy dâl, O Arglwydd,I’m cyhuddwyr; tyrd yn ebrwydd,Er mwyn d’enw, i weithreduDrosof fi, ac i’m gwaredu.

22-24. Tlawd a thruan wyf; fe dderfyddF’egni megis cysgod hwyrddydd.Mae fy ngliniau’n wan gan ympryd;Tenau ydwyf a newynllyd.

25-26. Rwy’n gyff gwawd i bawb; pan welantFi, eu pennau a ysgydwant.Arglwydd, cymorth fi mewn llesgedd,Achub fi yn dy drugaredd.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 109